Lleoliad:
Committee Room 1&2, Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Mawrth 2023
Amser:
10.22 -
10.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13424
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Heledd Fychan AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Maggie Russell, Ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Rhea James (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.3 Datganodd Alun Davies AS fuddiant o dan Reol Sefydlog 17.24A, gan fod yr ymgeisydd yn adnabyddus iddo.
2 Gwrandawiad craffu cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru
2.1 Bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
3.1.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip mewn ymateb i'r llythyr gan Amgueddfa Cymru ar 22 Chwefror 2023.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: Trafod yr adroddiad drafft ar ganfyddiadau cychwynnol y Pwyllgor
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod manylion eraill yn ymwneud â’r adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
6 Gwrandawiad craffu cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
6.2 Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar yr adroddiad terfynol drwy e-bost, cyn ei gyhoeddi ar 17 Mawrth 2023.